Adnoddau i Gefnogi'r Diwydiant

Bydd y dudalen hon yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd i dynnu sylw at sefydliadau ac adnoddau sy'n darparu cymorth, cyngor a chyfleoedd i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu.

CIISA

CIISA yw'r awdurdod safonau annibynnol, sy'n cael ei gefnogi gan y diwydiant, ar gyfer sector creadigol y DU.

Cynnig Cymraeg

Cydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg ar gyfer sefydliadu sydd wedi gweithio gyda'r sefydliad er mwyn llunio Cynllun Datblygu’r Gymraeg cryf.

Yr Elusen Ffilm a Theledu

Mae'r Elusen Ffilm a Theledu yn cynnig cymorth corfforol, meddyliol ac ariannol i bawb sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni yn y byd ffilm, teledu a sinema.

TV Access Project (TAP)

Nod TAP yw gwella darpariaeth mynediad a hygyrchedd yn sylweddol ac yn barhaol ar draws diwydiant teledu y DU.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn darparu fframwaith Cymru-gyfan ar gyfer diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

WorkWise for Screen

Nod WorkWise for Screen yw cefnogi cyflogwyr i ofalu’n well am y bobl sy’n hanfodol i’w busnes.

Ymddiried

Mae Ymddiried Media Grants Cymru yn cynnig grantiau a chymorth i unigolion sy'n edrych am gyfleoedd i uwch sgilio o fewn y cyfryngau yng Nghymru.

Dogfennau Defnyddiol

Fideos: Adnoddau Hyfforddiant

Lles ar Gynyrchiadau: Cyflwyniad i Rôl yr Hwylusydd Lles – 14 Gorffennaf 2026