Hyfforddiant TAC

Sefydlwyd partneriaeth hyfforddiant TAC S4C yn 2019 i ddatblygu sgiliau yn y sector a sicrhau bod cynyrchiadau yn ateb y safonau gofynnol. Mae TAC yn cynnal arolwg sgiliau ymhlith ei aelodau yn flynyddol er mwyn deall anghenion hyfforddi a theilwra rhaglen sy’n ateb galw y sector gynhyrchu.

Mae’r rhaglen hyfforddiant yn canolbwyntio ar 4 prif faes sef:

1. Blaenoriaethau Strategaeth S4C fel comisiynydd a darlledwr
2. Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb
3. Hyfforddiant cynhyrchu a sgiliau ehangach
4. Hyfforddiant a chanllawiau sy’n benodol i’r diwydiant

Sesiynau Hyfforddiant Rheolaidd:

    • Cyflwyniad i Ddiogelu Plant yn y Cyfryngau: Dyma gwrs wedi’i ddatblygu gan TAC ar gyfer S4C, ac yn cael ei gynnal gan y NSPCC i ddarparu cymorth, canllawiau a hyfforddiant ar ddiogelu plant ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn unol â Pholisi Amddiffyn Plant S4C. Mae’r cynnwys wedi’i ddiweddaru i gydymffurfio â fframwaith newydd Cymru ar gyfer hyfforddiant diogelu. Byddwch yn derbyn tystysgrif gan y NSPCC ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, a'r cyngor arfer gorau yw y dylid cwblhau'r hyfforddiant o leiaf bob tair blynedd.
    • Cwrs Gloywi - Diogelu Plant yn y Cyfryngau: Mae’r cwrs hwn yn addas i’r sawl sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant NSPCC ‘Cyflwyniad i Ddiogelu Plant yn y Cyfryngau’. Bwriad y cwrs yw adnewyddu a diweddaru gwybodaeth a sgiliau cyfranogwyr mewn diogelu, gan sicrhau eu bod nhw’n gymwys i ymdrin â heriau cyfredol a’r hyn all godi mewn ffordd effeithiol, gyda ffocws ar y diwydiant cynhyrchu a'r dirwedd cyfryngau digidol.
    • Hyfforddiant Person Diogelu Dynodedig: Mae hyfforddiant Person Diogelu Dynodedig yr NSPCC yng Nghymru wedi ei gynllunio er mwyn helpu’r person Dynodedig Diogelu i ddeall eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth a chanllawiau diogelu plant yng Nghymru. Mae’r hyfforddiant yn cefnogi’r Person Dynodedig Diogelu i adnabod ac i ymateb i bryderon am blant a phobl ifanc, deall y trothwyon ar gyfer ymyrraeth, a gwneud penderfyniadau gwybodus yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. 
    • Rheolaeth Ddiogel o Gynyrchiadau: Mae TAC yn trefnu sesiynau hyfforddiant rheolaidd mewn partneriaeth â Dragon Fire and Safety ar reolaeth Ddiogel o Gynyrchiadau gan gydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol. Maent yn cael eu cynnal ar lein ac ar safle, a gellir darparu’r sesiynau drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl y galw. Byddwch yn derbyn pasbort pum mlynedd ar ôl cwblhau’r hyfforddiant sy’n cael ei dderbyn gan ddarlledwyr blaenllaw’r DU.
    • Sesiynau 'galw heibio' PRS: Pwrpas y sesiynau yma yw rhoi cyfle i aelodau TAC godi materion, gofyn cwestiynau a magu hyder wrth glirio a thrwyddedu cerddoriaeth, a delio â systemau PRS ac MCPS gan ganolbwyntio ar S4C. 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â Rhaglen Hyfforddiant TAC/S4C , cysylltwch â Sioned Harries (Swyddog Hyfforddiant a Datblygu).