
Mae TAC yn falch iawn o fod wedi ennill cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg drwy dderbyn y Cynnig Cymraeg. Mae’r Cynnig Cymraeg yn cael ei roi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.
Derbyniodd Cynllun Datblygu’r Gymraeg gan TAC gymeradwyaeth ar 18.02.2026 ac mae TAC yn ddiolchgar i Tîm Hybu’r Comisiynydd am y cymorth wrth fynd ati i roi’r cynllun ar waith a’r arweiniad drwy’r broses.
Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad TAC i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, i hybu’r iaith a nodi ei phwysigrwydd drwy ein gwaith. Mae’r Cynnig Cymraeg yn nodi bod TAC yn darparu pob un o’r gwasanaethau hyn drwy’r iaith Gymraeg:
- Gwasanaeth i Aelodau TAC
- Adnoddau Aelodau TAC
- Gwefan TAC
- Rhaglen Hyfforddiant TAC
- Gwasanaeth i'r Cyhoedd
- Gweithrefnau mewnol TAC
Mae cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg i’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yn hollbwysig i TAC. Mae’n hanfodol bod TAC yn medru gweithio drwy’r Gymraeg er mwyn diwallu anghenion cynhyrchwyr a’r sector ddarlledu yng Nghymru. Mae TAC felly’n croesawu sylwadau Comisiynydd y Gymraeg bod Cynllun Datblygu’r Gymraeg a'r targedau a gytunwyd arnynt gan TAC “wedi’u cynllunio mewn ffordd sy’n uchelgeisiol, ond yn ymarferol ac yn fesuradwy.”
Mae cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg yn para am gyfnod o 3 mlynedd a bydd disgwyliad i TAC adolygu’r Cynllun cyn diwedd y cyfnod. Gallwch ddysgu mwy am y Cynnig Cymraeg a sut i greu Cynllun Datblygu'r Gymraeg yma.