
Mae TAC yn falch i gyhoeddi ein bod yn cynnal hyforddiant Rheolaeth Ddiogel o Gynyrchiadau ar-lein ar Ddydd Gwener 23 Hydref. Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan Alan Gwynant, arbenigwr yn y maes ers blynyddoedd, a byddwch yn derbyn pasbort pum mlynedd, sy'n cael ei dderbyn gan ddarlledwyr blaenllaw'r DU, ar ddiwedd y cwrs. Mae lleoedd yn gyfyngedig i 12 o bobl y sesiwn, felly cofrestrwch isod i gadw'ch lle.
Amlinelliad y cwrs:
• Rhesymau dros gydymffurfio â’r gyfraith
• Y gyfraith iechyd a diogelwch – sifil a throseddol
• Rheoliadau perthnasol – offer, codi a symud ayyb
• Risgiau mwyaf
• Asesu Risg – y broses, beth i’w ystyried, ffactorau all effeithio
• Enghreifftiau o asesiadau risg
• Sut i gofnodi
• Beth i’w gofnodi
• Dysgu gwersi o ddamweiniau diweddar
• Ymarfer asesiad risg
• Amser i drafod ac i holi cwestiynau
Dyddiad: Dydd Gwener 23 Hydref, 10:00yb - 13:30yp
Lleoliad: Ar-lein
Cost: Aelodau TAC: £115 + TAW, eraill: £230 + TAW
Iaith: Cymraeg
Hyfforddwr: Alan Gwynant (Dragon Fire and Safety)