Mae TAC yn falch iawn o longyfarch ei aelodau yn dilyn cyhoeddi enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2026.
Cynhaliwyd y seremoni fawreddog ar nos Sul 4 Hydref, 2026 yn ICC Cymru, Casnewydd, a dyma aelodau TAC a ddaeth i’r brig:
Cyflwynydd
Mari Grug: Un Dydd ar y Tro – Tinopolis
Drama
Y Golau: Dŵr – Triongl
Golygu
Y Golau: Dŵr - Triongl
Cyfarwyddwr Ffeithiol
Y Crwydryn - Docshed
Cyfarwyddwr Ffeithiol
Rhys Edwards, Y Crwydryn - DocShed
Rhaglen Adloniant
Amour & Mynydd - Darlun
Cyfres Ffeithiol
Stori’r Iaith – Rondo
Rhaglenni Plant
Itopia - Boom
Newyddion a Materion Cyfoes
Foden: O Brifathro i Bedoffeil - Darlun
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr, yn ogystal â’r holl enwebiadau a dderbyniodd aelodau TAC eleni. Mae gwobrau blynyddol BAFTA Cymru yn dod â’r sector ynghyd ac yn parhau’n garreg filltir bwysig yn y calendr, gan ddathlu’r dalent eithriadol sydd yma yng Nghymru.”