Wrth i Diamond newid, dewch i ymuno â’r sesiwn arbennig hwn ar gyfer aelodau TAC gyda’r Creative Diversity Network (CDN) i gael trosolwg o’r fersiwn newydd, y prif newidiadau, a beth fydd hyn yn ei olygu i chi a'ch timau.
Bydd y fersiwn newydd o Diamond yn cael ei lansio ddydd Mercher 30 Medi gan Creative Diversity Network (CDN) mewn partneriaeth â The Everyone Project.
Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn a'r cyfle i godi unrhyw ymholiadau gyda'r tîm Diamond a fydd yn eich cynghori ymhellach ar y newidiadau.
Bydd y Diamond newydd yn cael ei symleiddio i fod yn haws i'w ddefnyddio, gyda diweddariadau allweddol yn cynnwys:
- Gwell offer ar gyfer ymgysylltu â'r cast a'r criw
- Llwytho rhestrau unedau o’r pwynt cytundebu, gan gyfatebu rôl a dileu dyblygiadau'n awtomatig
- Adroddiadau amrywiaeth dienw ar draws eich cwmni a'ch prosiectau technoleg
- Tracio prosiectau yn erbyn y meini prawf , targedau darlledwyr a thargedau’r gweithlu
Mae’r sesiwn ar agor i bawb, yn enwedig:
- Senior creatives or senior leadership involved in commissioning or DEI
- Talent management, HR and production management involved in hiring and contracting
- Rheoli cynhyrchu a chydlynwyr yn delio â chontractau a gwaith papur
Mae'r Diamond newydd yn lansio ym mis Medi 2026, gellir dod o hyd i fanylion llawn yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, gallwch gysylltu â thîm Diamond drwy e-bost enquiries@creativediversitynetwork.com
Dyddiad ac amser: 13:00 – 14:00, Dydd Mercher 14 Hydref 2026
Lleoliad: Zoom
Iaith: Saesneg
Mae cofrestriadau ar gyfer y sesiwn hwn nawr wedi cau.