O 30 Hydref 2026 ymlaen, bydd gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i gymryd bob cam rhesymol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mi fydd cyflogwyr hefyd yn dod yn atebol am weithredoedd o aflonyddu ar unrhyw ffurf a gyflawnir gan drydydd parti yn erbyn eu staff tra wrth eu gwaith.
Mae’r newidiadau deddfwriaethol hyn yn seismig o ran hyd a lled eu cyrhaeddiad a’u heffaith ar gyflogwyr. Mae angen, felly, i gyflogwyr gymryd camau gweithredol a pharatoadol - sydd yn adlewyrchu diwydiannau’r cyflogwyr hynny - cyn iddynt gael eu cyflwyno.
Oherwydd natur diwydiant y cyfryngau, gyda gwaith yn seiliedig ar brosiect, gweithlu llawrydd helaeth, patrymau gwaith amrywiol, rhyngweithio rheolaidd â chontractwyr, talent, cleientiaid ac aelodau’r cyhoedd, gall sefyllfaoedd cymhleth godi, ac mae angen i chi baratoi ar gyfer rhain.
Ymunwch â ni am weminar a fydd yn eich hyfforddi a’ch cynorthwyo yn eich paratoadau ar gyfer y newidiadau sylweddol hyn.
Yn y weminar mi fyddwn yn eich diweddaru ar y newidiadau deddfwriaethol, ac yn trafod yr angen i chi gael:
- Polisïau clir, hygyrch sy'n ymdrin ag aflonyddu ac urddas yn y gwaith
- Hyfforddiant rheolaidd, penodol i'r rôl, i staff a phobol sydd yn rheoli cynyrchiadau
- Arwyddion clir, gweladwy mewn gweithleoedd yn nodi’ch polisi dim goddefgarwch, a geiriad cyfatebol ar eich gwefan ac yn eich telerau ac amodau
- Cyrsiau anwytho ar gyfer contractwyr a gweithwyr asiantaeth, a mesurau i'w gwneud yn ofynnol i dryddydd bartïon hyfforddi eu gweithwyr eu hunain
- Llwybrau adrodd diogel a chynlluniau ymateb pan fydd digwyddiadau wedi bod, naill ai'n cynnwys cydweithwyr neu drydydd parti fel contractwyr
Caiff y weminar hon ei chynnal gan Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray LLP, a bydd Fflur yn cynnig canllawiau ymarferol i chi ar adnabod risgiau, sut i ymateb i bryderon mewn modd addas, a sut allwch chi sicrhau fod cynyrchiadau yn cydymffurfio â’r newidiadau sydd i ddod.
Rydyn ni wedi datblygu lefelau prisio ar gyfer y cwrs hwn er mwyn sicrhau pris teg fesul person i gwmnïau llai, tra’n galluogi sefydliadau mwy i anfon nifer uwch o staff fel bod y mwyafrif yn gallu cwblhau’r hyfforddiant pwysig hwn. Mi fyddwn yn anfonebu fesul cwmni, yn seiliedig ar faint o staff sy’n cofrestru, gan sicrhau strwythur syml, tryloyw ac yn deg i bawb. Gwelwch y manylion llawn isod.
- 1 person: Pris cwmni £50.00
- 2 - 3 person: Pris cwmni £100.00
- 4 - 5 person: Pris cwmni £160.00
- 6 - 10 person: Pris cwmni £260.00
- 11 - 15 person: Pris cwmni £350.00
- 15 - 20 person: Pris cwmni £420.00
Dyddiad ac amser: 10:00 - 12:00, Dydd Iau, 24 Medi 2026
Lleoliad: Zoom
Arweinwyr: Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray LLP
Iaith: Cymraeg
Mae'r cwrs hwn bellach yn llawn.