Mae angen i bob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant gael rhywun sy’n arwain ar ddiogelu ac amddiffyn plant. Yng Nghymru, y Person Diogelu Dynodedig yw’r pwynt cyswllt i unrhyw un mewn sefydliad sydd â phryder am blentyn.
Mae hyfforddiant Person Diogelu Dynodedig yr NSPCC yng Nghymru wedi ei gynllunio er mwyn helpu’r person Dynodedig Diogelu i ddeall eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth a chanllawiau diogelu plant yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yn cefnogi’r Person Dynodedig Diogelu i adnabod ac i ymateb i bryderon am blant a phobl ifanc, deall y trothwyon ar gyfer ymyrraeth, a gwneud penderfyniadau gwybodus yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae’r hyfforddiant hefyd yn ymdrin â sut i gefnogi staff sy'n codi pryderon, gweithio'n effeithiol gyda rhieni a gofalwyr, a chydweithio â phartneriaid aml-asiantaeth fel gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a'r heddlu.
Mae'r cwrs yn bodloni gofynion hyfforddiant Grŵp C o fewn Fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol.
Dyddiad ac amser: 21 + 22 Medi, 9:30 – 16:30 (ar y ddau ddiwrnod)
Lleoliad: Zoom
Cost: Aelodau TAC: £210 + TAW, eraill: £420 + TAW
Arweinwyr: Hyfforddwr NSPCC
Iaith: Saesneg