Cyflwyniad i ddiogelu plant yn y cyfryngau - 16 Medi

Mae’r cwrs hwn wedi cael ei ddatblygu gan TAC ar gyfer S4C, ac yn cael ei gynnal gan y NSPCC i ddarparu cymorth, canllawiau a hyfforddiant perthnasol ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol ar ddiogelu Plant yn unol â Polisi Amddiffyn Plant S4C.11

Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddiweddaru i gydymffurfio â fframwaith newydd Cymru ar gyfer hyfforddiant diogelu.

Nod yr hyfforddiant hwn yw galluogi staff i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brosesau diogelu ac amddiffyn plant a pherthnasu’r rhain i’w rôl a’u cyfrifoldebau o fewn y diwydiant cyfryngau ac adloniant.

Byddwch yn derbyn tystysgrif gan y NSPCC ar ôl cwblhau’r hyfforddiant. Y cyngor arfer gorau yw y dylid cynnal yr hyfforddiant o leiaf bob tair blynedd i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau. 

Mae’r hyfforddiant hwn wedi cael ei ddatblygu gan ‘NSPCC Learning’ er mwyn cydymffurfio gyda gofynion y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu ar gyfer Hyfforddiant Grŵp B. Mae ymarferwyr Grŵp B yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn grwpiau neu ar sail un-i-un. Mae’r safonau’n nodi bod angen o leiaf chwe awr o hyfforddiant i gyflawni’r canlyniadau dysgu.

Amcanion y cwrs:

  • Y gallu i ddisgrifio sut i weithio mewn ffyrdd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  • Deall sut i fod yn chwilfrydig pan fyddant yn dyst neu’n amau ​​camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os yw rhywun yn gweud ei bod nhw’n cael ei cam-drin.
  • Y gallu i egluro ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a allai arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  • Cydnabod sut y gallai credoau, profiad ac agweddau ei hun ddylanwadu ar gyfranogiad proffesiynol mewn gwaith diogelu.
  • Adnabod y ddeddfwriaeth a’r canllawiau perthnasol sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer diogelu plant yn eich gweithle.
  • Cydnabod risgiau a niwed ar-lein sy’n dod i’r amlwg i blant a phobl ifanc.
  • Deall sut i weithredu eich pryderon, sut i adrodd yn gywir a deall pwysigrwydd cadw cofnod cywir.

 

  1. Polisi Amddiffyn Plant S4C 2023

Dyddiad ac amser: Dydd Mercher 16 Medi, 9:30yb - 4:30yp

Lleoliad: Zoom

Cost: aelodau TAC: £90; eraill: £180

Arweinwyr: Hyfforddwr NSPCC

Iaith: Saesneg

Mae'r cwrs hwn bellach yn llawn.

Discover more from TAC

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading