Mae TAC yn croesawu cyhoeddiad Cynllun Sector Diwydiannau Creadigol Llywodraeth y DU. I’w nodi yn arbennig yw’r cynnydd i Gronfa Sgrin Fyd-eang y DU (UKGSF), rhywbeth mae TAC wedi bod yn galw amdano. Rydym hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i weithio gyda Seneddau datganoledig a chydnabyddiaeth o’r rhan bwysig mae Cymru Greadigol yn ei chwarae wrth ddatblygu Sgiliau. Mae hefyd yn dda gweld cynnydd yn y cyllid ar gyfer yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS).
Mae’r ymrwymiad i gryfhau coridor Gogledd Cymru hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau y gall mwy o gymunedau yng Nghymru elwa’n llawn o gael busnesau creadigol.
Rydym hefyd yn falch o weld twf mewn cynlluniau ar gyfer teithiau masnach a marchnadoedd, mae TAC eisoes yn gweithio gydag Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU ar y meysydd hyn a byddwn yn edrych ymlaen at ymgysylltu ar hyn.
Nodwn gydnabyddiaeth y Cynllun o bwysigrwydd y sector cynhyrchu teledu annibynnol. O ran unrhyw waith pellach sy’n cael ei gynllunio ar ddiogelu’r system ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, mae’n bwysig bod y cydbwysedd rhwng darlledwyr a chynhyrchwyr yn cael ei gadw o ran peidio â gwanhau’r amddiffyniadau ar gyfer eiddo deallusol cynhyrchwyr sydd wedi’u cynnwys yn y Telerau Masnach rheoleiddiedig, y mae Ofcom yn edrych arnynt ar hyn o bryd.
Yn olaf, nodwn y bydd y system rhyddhad treth yn cael ei gadw gan roi ystyriaeth i newidiadau pellach posib, ac ar y nodyn hwn, byddwn yn parhau i alw am drothwy credyd treth Teledu Pen Uchel is ar gyfer cynyrchiadau ieithoedd lleiafrifol, er mwyn cynorthwyo S4C, TG4, MG Alba ac eraill i gynhyrchu mwy o gynnwys pen uchel y gellir ei farchnata’n rhyngwladol.
Rydym yn nodi sicrwydd y Llywodraeth ar amddiffyn hawlfraint greadigol rhag crafu heb ei reoli gan fodelau AI, ond byddem yn ailadrodd bod mesurau i sicrhau tryloywder o ran pa gynnwys sy’n cael ei grafu, a phroses tâl teg nad yw’n rhoi’r baich ar ddeiliad yr hawlfraint, yn hanfodol a bod angen eu cyflwyno cyn gynted â phosibl.