Mae TAC, y corff masnachol ar gyfer cwmnïau cynhyrchu teledu yng Nghymru, heddiw yn ymateb i’r newyddion bod Delyth Evans wedi cael ei hapwyntio fel Cadeirydd S4C, yn dilyn gwrandawiad cyn penodi gyda Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Croesawn benodiad Delyth Evans yn Gadeirydd newydd S4C. Bydd profiad Delyth yn hynod o fuddiol ac rydym yn croesawu ei geiriau diweddar i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn cydnabod y gwaith pwysig yn ein sector wrth ddarparu ystod eang o gynnwys safon uchel i S4C.
Mae hwn wedi bod yn gyfnod trawsnewidiol ar gyfer S4C ac rydyn yn gwerthfawrogi’r gwaith pwysig gan y Cadeirydd dros dro, Guto Bebb dros y misoedd diwethaf ac yn ei ddiolch am ei ymroddiad gyda’n sector.
Rydyn yn ddiolchgar fod yna Cadeirydd llawn-amser nawr mewn lle wrth i S4C ac ein sector gymryd rhan yn y ddadl ar ddyfodol Ffi’r Drwydded Deledu, sydd yn ffynhonnell i holl arian cyhoeddus S4C.
Rydym hefyd yn croesawu aelodau eraill Bwrdd S4C, yn cynnwys cyn Gadeirydd TAC, Dyfrig Davies.
Rydyn hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Delyth Evans a S4C ar ein rhaglen hyfforddiant sydd mewn partneriaeth â S4C, sydd erbyn hyn wedi cynnal 134 o gyrsiau a derbyn 1895 o gofrestriadau.”