Hyfforddiant TAC
Sefydlwyd partneriaeth hyfforddiant TAC S4C yn 2019 i ddatblygu sgiliau yn y sector a sicrhau bod cynyrchiadau yn ateb y safonau gofynnol.
Mae’r rhaglen hyfforddiant yn canolbwyntio ar 4 prif faes sef:
Blaenoriaethau Strategaeth S4C fel comisiynydd a darlledwr
Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb – sesiynau amrywiol
Hyfforddiant cynhyrchu a sgiliau ehangach – sesiynau amrywiol
Hyfforddiant a chanllawiau sy’n benodol i’r diwydiant yn cynnwys:
- Diogelu Plant yn y Cyfryngau gyda’r NSPCC yn unol â Chanllawiau a Pholisi Amddiffyn Plant S4C
- Hyfforddiant Rheoli Risg Cynyrchiadau er mwyn cydymffurfio â’r gofynion deddfwriaethol
- Gweithdai a sesiynau galw heibio chwarterol gyda’r PRS ar glirio cerddoriaeth
- Hyfforddiant BAFTA albert