Polisi

Mae gwaith polisi TAC yn cynnwys trafodaethau cyson gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein diwydiant a’r sectorau darlledu a chynhyrchu ehangach. Mae TAC yn ymgysylltu’n rheolaidd â:

  • Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru ar faterion darlledu a’r sector creadigol yng Nghymru
  • Llywodraeth y DU – yn cynnwys Swyddfa Cymru ac Adran dros Ddiwylliant y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a phwyllgorau seneddol amrywiol
  • Cynrychiolwyr o’r holl bleidiau gwleidyddol i drafod y sector cynhyrchu teledu yng Nghymru a’i bwysigrwydd diwylliannol ac economaidd
  • Ofcom ac eraill i drafod rheoleiddio darlledu, darlledu gwasanaeth cyhoeddus a materion perthnasol
  • Bwrdd y BBC ac S4C i drafod materion polisi

Gallwch ddarllen isod ein cyflwyniadau diweddar i ymgynghoriadau ac ymchwiliadau pwyllgorau. (Mae’r papurau wedi eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno):

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o bolisïau cyfredol TAC, anfonwch e-bost at Tim Wilson, Ymgynghorydd Polisi a’r Cyfryngau neu ffoniwch 07909 560374.

Papurau Polisi TAC

Yn ddiweddar