Welsh Independent Producers
Welcome to Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC)
TAC ydy llais y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.
Mae ein haelodau’n cynhyrchu rhaglenni teledu, sain ac ar-lein ar gyfer ystod eang o ddarlledwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae’r diwydiannau creadigol yn cyfrannu’n helaeth at economi Cymru, ac maent yn rhan bwysig o sectorau creadigol byd-enwog y DU.
Cwmnïau’r sector yng Nghymru sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o raglenni S4C, gan bortreadu pobl Cymru, ein straeon a’n bywydau i gynulleidfa gartref, i weddill y DU a’r tu hwnt.
Ar y wefan hon, gallwch weld amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys ein dogfennau polisi a’r newyddion diweddaraf.
If you would like to join TAC, contact Sioned Haf Roberts for details.