Mae TAC yn partneru gyda’r Elusen Ffilm a Theledu ar gyfer sesiwn dros awr ginio i gyflwyno’r Egwyddorion a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer cynyrchiadau sydd yn feddyliol iach.
Bydd y sesiwn – sy’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i aelodau TAC - yn esbonio’r Egwyddorion ac yn cynnig rhagolwg o’r adnodd newydd sy’n cael ei ddatblygu er mwyn helpu timau i weithredu’r Egwyddorion yn gyson ac yn hyderus yn ystod pob rhan o gynhyrchiad.
Yn nes ymlaen yn y flwyddyn, fe fydd yr Elusen Ffilm a Theledu yn lansio adnodd digidol, ochr yn ochr â chronfa wybodaeth, i gefnogi’r Egwyddorion ar gyfer cynyrchiadau sy’n feddyliol iach, a fydd yn ffurfio’r cyfnod nesaf o’r pecyn cymortth ‘Whole Picture’.
Ymunwch â’r sesiwn i ddysgu mwy a gweld sut gall yr adnoddau hyn eich cefnogi chi a'ch timau, a sicrhau bod eich cwmni'n derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle.
Dyddiad: Dydd Mawrth 23 Mehefin, 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein
Cost: Am ddim i aelodau TAC
Cyflwynydd y sesiwn: Sophie Freeman (Yr Elusen Ffilm a Theledu)