Mae TAC a S4C wedi partneru gyda ScreenSkills er mwyn darparu modiwlau e-ddysgu drwy’r Gymraeg.
Heddiw (04.06.2026) lansiwyd dau gyfieithiad newydd yn y Gymraeg o’r modiwlau e-ddysgu llwyddiannus ar ddiogelu a thaclo bwlio ac aflonyddu, sydd wedi eu dylunio i wella hygyrchedd, cryfhau datblygiad sgiliau, ac i gefnogi twf y diwydiannau sgrin ar draws Chymru.
Bydd y cyfieithiadau o’r ddau fodiwl yn sicrhau bod adnoddau hyfforddi o ansawdd uchel ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan greu amgylchedd dysgu cynhwysol a hygyrch i weithwyr newydd a phroffesiynol sy'n gweithio ar draws ffilm, teledu a chyfryngau digidol.
Mae’r modiwlau Cymraeg bellach yn fyw ac yn ffurfio rhan o Basbort Hyfforddiant ScreenSkills, sy'n golygu bydd gan weithwyr llawrydd gofnod digidol o’u hyfforddiant hanfodol, gan eu paratoi i weithio ar gynyrchiadau ar draws y DU.
Mynd i'r afael ag aflonyddu a bwlio yn y gweithle ScreenSkills
Mae'r fenter yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol darpariaeth iaith Gymraeg o fewn y diwydiannau creadigol, ac yn cefnogi uchelgais ehangach i gryfhau sgiliau'r sector ar draws pob rhanbarth o Gymru.
Dywedodd Llyr Morus - Cadeirydd TAC:
“Rwy'n hynod falch o sut mae'r fenter hon a'r cydweithrediad rhwng ScreenSkills, S4C a TAC wedi arwain at fodiwlau e-hyfforddiant hanfodol i fod ar gael yn yr iaith Gymraeg. Mae cefnogi'r sector cynhyrchu i ddarparu gweithle diogel a chynhwysol mor bwysig, ac mae sicrhau bod hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg yn hanfodol i ddiwallu anghenion cynhyrchwyr a'r sector ddarlledu yng Nghymru. Mae llawer o gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae darparu hyfforddiant mewn iaith a ffefrir yn cynnig gwell ansawdd gwasanaeth gan arwain at ganlyniadau gwell. Mae partneriaeth hyfforddiant TAC S4C yn cynnig rhaglen gref i ddatblygu sgiliau a sicrhau bod cynyrchiadau yn ateb y safonau gofynnol, ac rwy'n croesawu'r bartneriaeth hon a'r cydweithio â ScreenSkills.”
Dywedodd Hannah Roose – Rheolwr Cydlynu Hyfforddiant Cymru ScreenSkills:
“Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â TAC a S4C ar ran ScreenSkills i ddatblygu’r cyfieithiadau Cymraeg hyn o’n modiwlau e-ddysgu. Fel Cymraes ac yn ddysgwr Cymraeg, mae’r prosiect hwn yn golygu llawer i mi. Mae’n adlewyrchu pwysigrwydd iaith, diwylliant a hygyrchedd o fewn y diwydiannau sgrin yng Nghymru. Rwy’n teimlo’n falch ein bod yn medru cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau trwy’r iaith Gymraeg, ac mae’n gwneud datblygiad proffesiynol yn fwy cynhwysol a hygyrch i bawb yng Nghymru.”
Dywedodd Sara Peacock, Pennaeth Pwrpas Cymdeithasol S4C:
“Mae’r cyfryngau Cymraeg yn rhan hanfodol o ecosystem cynhyrchu Cymru, ac yn S4C rydym yn cydnabod yr angen i'n cyflenwyr gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd da trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth â TAC i ddarparu rhaglen hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, ac wrth ein bodd yn gweld yr hyfforddiant craidd hwn gan ScreenSkills ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. Rydym yn cymryd lles o ddifri a byddem yn annog cymaint o bobl â phosib i gael mynediad at y cyrsiau Diogelu ac Atal Bwlio ac Aflonyddu yma. Mae mwyafrif o’n cymuned cynhyrchu yn siaradwyr Cymraeg, felly bydd cael y cyrsiau pwysig hyn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn hwyluso mynediad at hyfforddiant i'r sector.”
Dywedodd Laura Mansfield - Prif Weithredwr ScreenSkills:
“Mae ScreenSkills wedi ymrwymo i hyrwyddo sgiliau a rhoi cyfle i bobl o bob cefndir wireddu eu potensial yn y diwydiant sgrin. Mae’n bwysig bod y sector sgrin yn gwbl gynhwysol ac yn adlewyrchu’r amrywiaeth o leisiau o bob rhan o’r DU. Rydym mor falch o fedru cynnig y modiwlau hyfforddi hyn yn yr iaith Gymraeg er mwyn sicrhau bod ein modiwlau hyfforddi ar gael ac yn hygyrch i bawb ar draws Cymru.”
Mae'r lansiad yn cefnogi ymdrechion parhaus i wella hygyrchedd a chynrychiolaeth o fewn diwydiannau sgrin y DU tra'n cydnabod hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw Cymru.