
Pwrpas y sesiwn sylfaenol yma fydd i roi cyfle i aelodau TAC i godi materion, gofyn cwestiynau a magu hyder wrth glirio a thrwyddedu cerddoriaeth, a delio â systemau PRS ac MCPS gan ganolbwyntio ar S4C.
Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â chlirio hawliau cerddoriaeth ar-lein, a bydd Dai Lloyd (Rheolwr Cyfrifon Cymru) a Siân Jones (Ymgynghorydd Trwyddedu) ar gael i ateb eich cwestiynau ac eich tywys drwy’r broses glirio.
Mae’r sesiwn hon yn hollol rhad ac am ddim i aelodau TAC.
Dyddiad ac amser: Dydd Iau 26 Mawrth, 10:00 - 11:00
Lleoliad: Zoom (Ar-lein)
Cost: Am ddim i aelodau TAC
Iaith y sesiwn: Fe fydd y sesiwn yn cael ei gyflwyno trwy'r Saesneg
Arweinwyr: Dai Lloyd (Rheolwr Cyfrifon Cymru PRS), Siân Jones (Ymgynghorydd Trwyddedu PRS)