Mae TAC yn falch iawn o longyfarch ei aelodau yn dilyn cyhoeddi enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2025.
Cynhaliwyd y seremoni fawreddog neithiwr, nos Sul 5 Hydref, 2025 yn ICC Cymru, Casnewydd, a dyma aelodau TAC a ddaeth i’r brig:
Rhaglen Blant
Deian a Loli – Cwmni Da
Cyfres Ffeithiol
Marw Gyda Kris – Ffilmiau Twm Twm
Torri Tir Newydd Cymru
The Golden Cobra – Beastly Media
Rhaglen Adloniant
The Golden Cobra – Beastly Media
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
"Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr a hefyd i’r holl enwebiadau a dderbyniodd aelodau TAC eleni. Mae gwobrau blynyddol BAFTA Cymru yn gyfle i ddod â’r sector ynghyd ac yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr i ddathlu’r dalent sydd yma yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at gael adeiladu ar y llwyddiannau a dathlu ymhellach gyda’r sector ddechrau fis Tachwedd wrth i TAC a S4C gynnal cynhadledd ar y cyd, ‘Dychmygu’r Dyfodol’, i osod cyfeiriad newydd ar gyfer darlledu a chreu cynnwys yn y Gymraeg.”
Bydd y gynhadledd flynyddol yn digwydd ar 5-6 Tachwedd 2025 yng ngwesty’r Park Plaza, Caerdydd, yn ystod wythnos pen-blwydd S4C, ac yn gyfle i’r darlledwr, y sector gynhyrchu a’r ecosystem ehangach o weithwyr creadigol, rhai llawrydd a chwmnïau i ddod ynghyd i drafod dyfodol y diwydiant o safbwynt Cymru a’r Gymraeg.
Mae'r digwyddiad hwn wedi derbyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.