Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Mae TAC yn croesawu bod S4C yn gosod strategaeth a chyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Mae tirwedd y cyfryngau yn newid ac mae'r diwydiant ehangach, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu, hefyd yn edrych i addasu.
Er mwyn cyflawni’r strategaeth yn llwyddiannus a sicrhau bod y cynnwys ar gael ar draws y gwahanol lwyfannau i wylwyr S4C, bydd yn bwysig wrth gwrs i S4C gydweithio’n agos gyda TAC a’r sector.
Rydym yn edrych ymlaen at ddeialog barhaus ac agored gyda S4C, gan gynnwys ar ei chynllun ar gyfer ffordd newydd o gomisiynu. Bydd ymgynghori â’r sector yn bwysig er mwyn sicrhau bod cwmnïau ar draws Cymru gyfan yn gallu darparu cynnwys o safon uchel i wylwyr S4C sy’n adlewyrchu cymunedau ledled y wlad a thu hwnt.”