
Gwnaeth aelodau TAC ddenu cynulleidfaoedd mawr ar gyfer eu gweithdai a digwyddiadau ym mhabell Sinemaes yn Eisteddfod Wrecsam.
Mae Sinemaes yn rhaglen a gynhelir gan y Gynghrair Sgrin Cymru sydd yn cael ei gefnogi gan gwmnïau gwahanol yn y diwydiant gan gynnwys TAC ac S4C ac yn cynnig cymysgedd o weithdai, sgyrsiau a dangosiadau ffilmiau. Un o brif nodau Sinemaes yw cynnig blas i’r gynulleidfa ar y profiad o weithio yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Gwnaeth wyth aelod o TAC, sydd wedi eu lleoli ar draws Gymru drefnu naw gweithgaredd dros yr wythnos a daeth 639 o fynychwyr cofnodedig i’r sesiynau.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Mae wedi bod yn wych i weld bod digwyddiadau Sinemaes wedi denu cymaint o bobl, ac rydym yn ddiolchgar i aelodau TAC sydd wedi cymryd rhan. Mae Sinemaes yn llwyfan pwysig i’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru gan sicrhau bod y sector yn cyrraedd cymunedau ledled Cymru.”
Hoffai TAC ddiolch y Gynghrair Sgrin Cymru am eu cefnogaeth gyda’r digwyddiadau, aelodau TAC a wnaeth gymryd rhan yn nigwyddiadau’r wythnos ac i bawb ddaeth i gefnogi’r diwydiant dros yr wythnos.