Mae TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn croesawu penderfyniad Ofcom, y rheoleiddiwr ar gyfer y gwasanaethau cyfathrebu, i beidio cyflwyno newidiadau i’r Cod Ymarfer sydd yn llywio’r trafodaethau rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU a chynhyrchwyr annibynnol. Gwnaeth Ofcom gynnig i becynnu hawliau sylfaenol ac eilaidd a dileu gwaharddiad ar baru hawliau. Byddai’r mesuriadau wedi gwanhau sefyllfa cynhyrchwyr annibynnol ar adeg pryd maent eisioes yn gwynebu pwysau sylweddol.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Rydym yn falch iawn i weld bod Ofcom wedi penderfynu peidio gweithredu ar eu cynigion i newid y Codau Ymarfer i waredu ar y gwaharddiadau paru hawliau ac i ganiatáu bwndelu hawliau sylfaenol ac eilaidd. Gwnaeth TAC gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a chafodd hyn ei gyfeirio ato yn datganiad olaf Ofcom, gwnaethom hefyd gwrdd â Ofcom i gyfleu pryderon ein haelodau, a hoffwn fynegi ein diolch i Ofcom am ystyried y pryderon hynny.”
“Bob tro mae’r Codau Ymarfer yn cael eu hadolygu, mae'n achosi ansefydlogrwydd a dyfalu, felly rydym yn obeithiol y bydd y ddeddfwriaeth Codau Ymarfer a Thelerau Masnach, sydd wedi bod yn ffactor mawr mewn tyfiant y sector yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, bellach yn cael sefyll heb adolygiad pellach am gyfnod sylweddol o amser. ”