Heddiw, ymatebodd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), y corff masnach ar gyfer cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, i gyhoeddiad adolygiad Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSM) Ofcom.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC
“Rydym yn cydnabod fod pethau’n newid a rhai o argymelliadau Ofcom, er enghraifft diogelu cyllid darlledu cyhoeddus a sicrhau amlygrwydd ar YouTube, yn gwneud synnwyr perffaith. Rydym hefyd yn cytuno bod y rhyddhadau treth yn bwysig a byddwn yn parhau i ddadlau dros drothwy Teledu Pen Uchel is ar gyfer cynyrchiadau ieithoedd lleiafrifol, a fyddai’n rhoi hwb i gynhyrchu teledu yn y Cenhedloedd.”
“Fodd bynnag, er mwyn cadw’r system yn gynaliadwy, mae angen sicrhau ei fod yn gweithio yn y ffordd orau posibl i gyflawni ei hamcanion, gan gynnwys cynnal ac adeiladu canolfannau cynhyrchu cynaliadwy ledled y DU. Felly, rydym yn siomedig nad yw Ofcom - er bod TAC ac eraill wedi codi’r mater yn rheolaidd - wedi ymrwymo i adolygu ei meini-prawf o gynyrchiadau sydd wedi eu cynhyrchu ‘Tu allan i Lundain’ er mwyn sicrhau eu bod yn dal i weithio tuag at nod yr hyn a fwriadwyd gan ddeddfwriaeth a gafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar gan Ddeddf y Cyfryngau.”
“Hefyd, mae Ofcom yn siarad am adolygiad ‘sylfaenol’ o reoleiddio ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sydd yn cael gwared ar unrhyw reoliadau diangen sydd wedi dyddio. Mae’n bosib bydd y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu gan rai, ond ein pryder ni yw pa rhanddeiliad fydd yn arwain ar benderfynu bod rheoliadau’n ‘ddiangen’. Fel y gwelsom gyda’r ymgynghoriad diweddar ar Godau Ymarfer Teledu, cynigiodd Ofcom bolisïau sy’n ymddangos yn ganolog i’r darlledwr, ond sy’n niweidio’r sector annibynnol y mae’r darlledwyr hynny’n dibynnu arno am syniadau, straeon a thalent newydd. Mae angen i unrhyw gynigion o adolygiad i leihau rheoleiddio mewn meysydd o’r fath gynnwys ymgysylltiad llawn a theg â phob cwmni, er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.”