Mae Channel 4 wedi cadarnhau y bydd yn sefydlu cangen gynhyrchu fewnol, Channel 4 Productions (C4P), yn dilyn dileu ei eithriad rhag gwneud hynny yn Neddf y Cyfryngau y llynedd.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Bydd angen i Channel 4 sicrhau amgylchiadau teg ar gyfer comisiynu – mae hyn yn hanfodol i sicrhau nad yw C4P yn rhan o sgyrsiau na data sy’n rhoi mantais iddo dros gyflenwyr allanol.
Rydym hefyd wedi gweld adroddiadau y bydd y tîm cynhyrchu mewnol yn yr un adeilad â’r tîm comisiynu, sy’n amlwg yn codi pryderon ynghylch y graddau y bydd gwir gwahanu a chystadleuaeth deg ar waith.
Mae TAC yn codi gydag Ofcom sut bydd y berthynas rhwng Channel 4 Corporation a Channel 4 Production yn cael ei reoleiddio a pha raddau y bydd unrhyw ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Ar yr un pryd, mae Channel 4 wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei Gronfa Twf Indie, y bu i sawl cwmni cynhyrchu yng Nghymru elwa ohoni yn y gorffennol, ac yn hytrach yn lansio Cronfa Buddsoddi Newydd, a fydd “yn ceisio cymryd cyfrannau ecwiti mwy mewn cwmnïau graddadwy, gyda llwybr clir i berchnogaeth 100%.
Bydd hyn yn gam yn ôl o ran na fydd Channel 4 bellach yn cefnogi datblygiad cwmnïau annibynnol mewn achosion ble maent yn dymuno parhau yn hunan-berchnogion.
Bydd TAC yn trafod gyda Channel 4 a fydd yn cynnig unrhyw gefnogaeth bellach i gwmnïau annibynnol nad yw’n cynnwys meddiant perchnogaeth ddilynol.”