Mae Teledwyr Annibynnol Cymru, y gymdeithas fasnach ar gyfer cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru wedi ymateb heddiw i adroddiad newydd ar Ffilm a Theledu Pen Uchel gan Bwyllgor Dethol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd TAC:
“Rydym yn nodi cyhoeddi’r adroddiad eang hwn, sydd ymhlith pethau eraill yn cydnabod y materion presennol yn y diwydiant ac yn cyflwyno nifer o atebion. Rydym yn croesawu’n arbennig y pwyslais ar sgiliau a hyfforddiant a hefyd galwadau i amddiffyn y diwydiannau creadigol rhag cael deunydd hawlfraint wedi’i grafu gan AI cynhyrchiol heb dryloywder na thâl teg.”
“Mewn mannau eraill rydym yn nodi trafodaeth ar ryddhad treth ar gyfer cynhyrchu cenhedloedd a rhanbarthau a byddwn yn ailadrodd mai un ateb posibl yw addasiad i’r credyd gwariant Teledu Pen Uchel, er mwyn caniatáu trothwy is na £1m yr awr ar gyfer cynyrchiadau mewn ieithoedd lleiafrifol o’r DU fel y Gymraeg. Byddai hyn yn caniatáu i S4C ac eraill fod yn rhan o’r sector teledu pen uchel a pharhau i wasanaethu cynulleidfaoedd gyda nifer uwch o sioeau o safon uchel, ble gellir hefyd pennu gwerth domestig a rhyngwladol. Edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu gyda’r Pwyllgor a llawer o rai eraill ar lefel Cymru a’r DU ar hyn.”
Gellir darllen adroddiad llawn y Pwyllgor yma..